Eglwysi a Dementia
John Roberts a'i westeion yn trafod cynorthwyo'r rhai sy'n byw gyda dementia, ac yn nodi 25 mlynedd o Gyhoeddiadau'r Gair. John asks if congregations can help people with dementia.
Beth sydd angen i eglwysi a chapeli ei wneud i gynorthwyo'r rhai sy'n byw gyda dementia? Cheryl Williams o Alzheimer's Cymru sy'n trafod. Rydyn ni hefyd yn clywed gan ddau ficer, Nia Morris a Roland Barnes, am y gwaith mae eu heglwysi nhw'n ei wneud.
Mae Cyhoeddiadau'r Gair yn 25 oed eleni. Aled Davies a Bethan Mair sy'n ymuno 芒 John Roberts i edrych yn 么l ar chwarter canrif o gyhoeddi Cristnogol.
Beth oedd gan Val Webb, y diwinydd a'r gwyddonydd o Awstralia, i'w ddweud yng Nghynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21? Siriol Burford sy'n rhoi'r hanes.
Hefyd, sgwrs gyda dau sy'n ymgymryd 芒 dyletswyddau newydd. Mae Rheinallt Thomas wedi'i arwisgo'n Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, a Meirion Morris fydd cadeirydd ymddiriedolwyr Cymrugyfan. Beth yw eu bwriadau a'u gobeithion?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Edvard Grieg
Peer Gynt Suite No. 1, Op. 46: I. Morning Mood
Darllediad
- Sul 21 Mai 2017 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.