Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhoddion i'r Gwasanaeth Iechyd

Pa mor ddibynnol ydi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar roddion ariannol gan y cyhoedd? Manylu asks who dependent the NHS in Wales is on public donations.

Mae ymdrechion y cyhoedd i godi miliynau o bunnau a rhoi rhoddion o ewyllysion yn cyfrannu'n helaeth tuag at ariannu'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am bob math o bethau, fel gwneud cyfnod y claf yn yr ysbyty yn brafiach a thalu am offer na fyddai'n cael ei ariannu gan y pwrs cyhoeddus. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer mae'r t卯m meddygol eu hangen, ac i dalu am brosiectau mawr i wella canolfannau arbenigol.

Bythefnos cyn darlledu'r rhaglen hon, er enghraifft, fe agorodd Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ar ei newydd wedd. Mae'r addasiadau - sy'n cynnwys cynyddu nifer y gwelyau a chreu ystafell ddisgwyl newydd - wedi costio 拢1.2 miliwn, sef arian a gafodd ei roi i elusen Awyr Las.

Roedd 拢10 miliwn o incwm wedi mynd i goffrau'r byrddau iechyd y llynedd, diolch i roddion y cyhoedd. Dros 拢6 biliwn ydi cyllid blynyddol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Pam bod angen i unigolion gasglu arian i wasanaeth iechyd, ac a ddylid disgwyl i'r cyhoedd fynd yn ddyfnach i'w pocedi ar 么l talu eu trethi?

Pa fath o bethau sy'n cael eu prynu gan yr arian yma, a pha fath o bobl sy'n fodlon treulio cymaint o'u hamser hamdden yn gweithio'n galed i helpu'r Gwasanaeth Iechyd?

Mae Manylu yn holi pobl sydd wedi casglu miloedd i achosion da ym myd iechyd dros y blynyddoedd, ac hefyd yn clywed gan rai sy'n elwa.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 9 Gorff 2017 16:00

Darllediadau

  • Iau 6 Gorff 2017 12:30
  • Sul 9 Gorff 2017 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad