Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwendid May a Chynhadledd Plaid

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod gwendid Theresa May a chynhadledd Plaid Cymru. Vaughan Roderick and guests discuss Theresa May's weakness, plus Plaid Cymru's conference.

Wrth i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gynnal uwchgynhadledd ym Mrwsel, dyma bwyso a mesur dyfodol Theresa May. Roedd Cwestiynau'r Prif Weinidog yn Nh欧'r Cyffredin ddeuddydd cyn y rhaglen hon yn arwydd clir nad yw'r Ceidwadwyr yn fodlon eu byd, a hynny wrth i fater heblaw am Brexit gael ei drafod. Dyma holi, felly, beth yw gwendid Mrs May?

O un arweinydd at un arall, sef Leanne Wood. Mae disgwyl cryn drafod ar ei harweinyddiaeth hithau, hefyd, yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yng Nghaernarfon.

Ac ar 么l i'r Aelod Seneddol Tim Loughton ddatgelu ei fod yn treulio hyd at awr yn y bath bob bore, sut mae'r panelwyr yn mwynhau ymlacio?

Rhun ap Iorwerth, Owen Llewellyn Jones a Sian Beynon Powell sy'n ymuno gyda Vaughan Roderick.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 20 Hyd 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 20 Hyd 2017 12:00

Podlediad