Main content

Helgard Krause

Beti George yn sgwrsio gyda Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Beti George chats with Helgard Krause, Chief Executive of the Welsh Books Council.

Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

Ar 么l cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi.

Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg, a dysgodd Rwseg pan oedd yn byw yn Rwsia am flwyddyn. Yn wir, mae'n credu'n gryf y dylai pawb ddysgu iaith pa bynnag wlad y maen nhw'n byw ynddi.

Ar 么l symud i Wasg Prifysgol Cymru am gyfnod, daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau yn 2017, a mae'n dweud wrth Beti fel y mae'n mwynhau'r her honno.

Mae hefyd yn s么n am effaith anodd a thrist yr Ail Ryfel Byd ar ei theulu, ac am y profiad o ddweud wrth ei rhieni ei bod yn hoyw.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 30 Tach 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 26 Tach 2017 12:00
  • Iau 30 Tach 2017 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad