Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt, wrth i Nia Roberts drafod byd y theatr. A look at the arts in Wales and beyond.

Yn dilyn Gwobrau Theatr Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar, byd y theatr sy'n cael y sylw Nia a'i gwesteion.

Mae'n ymweld efo ymarferion cwmni Theatr Pena wrth iddynt baratoi ar gyfer cynhyrchiad o ddrama newydd gan Si么n Eirian, Woman of Flowers sy'n seiliedig ar ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd. Mae Nia yn siarad efo'r cast ac efo'r awdur, gan ei holi am yr her o ddefnyddio clasur Cymraeg fel sail i ddrama Saesneg.

Mae Nia hefyd yn rhoi sylw i gynhyrchiad gan Cwmni'r Fran Wen o ddrama newydd gan Gwyneth Glyn. Mae 糯y, Chips a Nain yn edrych ar gyflwr sy'n effeithio ar sawl un ohonom, sef dementia. Mae Nia'n sgwrsio efo'r actorion Gwenno Hodgkins ac Iwan Garmon am yr her o ddelio efo pwnc mor anodd.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 4 Chwef 2018 17:00

Darllediadau

  • Mer 31 Ion 2018 12:30
  • Sul 4 Chwef 2018 17:00