Syria, Calais ac Ystyr Dylanwad
John Roberts a'i westeion yn trafod Syria a Calais, cyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac yn gofyn beth yw ystyr dylanwad. Discussion on ethics and religion.
Sut y dylai gwleidyddion ymateb i'r digwyddiadau yn Syria? Y bargyfreithiwr Gwion Lewis sy'n trafod eu cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol.
Mae Esgobaeth Ewrop yr Eglwys Anglicanaidd, ar y cyd gydag Esgobaeth Caergaint a'r mudiad cenhadol USPG, wedi hysbysebu swydd yn chwilio am offeiriad i weinidogaethu yn ardal Calais. Mae'n swydd sy'n cyfuno gofal dros eglwysi a gweithio gyda ffoaduriaid yn yr ardal. Meurig Llwyd o Esgobaeth Ewrop sy'n esbonio rhagor.
Mae John Roberts hefyd yn cael cwmni Andy John a Laura Williams, i drafod cyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.
Hefyd, yr awdur Angharad Tomos yn ymateb i restr gan YouGov o'r bobl rydyn ni'n eu hedmygu fwyaf. Ai Bill Gates ac Angelina Jolie ddylai fod ar ei brig? Beth yw'r rhinweddau mae'n eu hamlygu?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 15 Ebr 2018 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.