Meirion Davies
Beti George yn sgwrsio gyda Meirion Davies, Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer. Beti George chats to Meirion Davies, Head of Publishing at Gomer Press.
Yn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C.
Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin.
Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam.
Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dderbyn gwersi yn Ysgol y Preseli gan yr artist Aneurin Jones. Mae ei ddyled yn fawr iddo am ei ysbrydoli a'i herio.
Wedi cyfnod mewn coleg celf, aeth i astudio drama cyn dechrau gwneud bywoliaeth fel perfformiwr a sgriptiwr.
I genhedlaeth o Gymry Cymraeg, bydd bob amser yn cael ei gysylltu 芒'r rhaglenni teledu Swig o'r 'Steddfod, a chymeriadau fel Horni a'r ddau Frank.
Er hynny, yr hyn sydd wedi ei yrru trwy ei yrfa yw'r dyhead i wneud bywoliaeth er mwyn cynnal ei ddiddordeb ym myd bridio ceffylau.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Meic Stevens
M么r o Gariad
- Dim Ond Cysgodion Y Baledi.
- SAIN.
- 7.
-
The Crew-Cuts
Sh-Boom (Life Could Be A Dream)
- The Best Of.
- Spectrum.
- 4.
-
London Symphony Orchestra
Nimrod
- Top 40 of Classical Music.
- 9.
-
Kacey Musgraves
Merry Go 'Round
- Same Trailer Different Park.
- Decca.
- 1.
Darllediadau
- Sul 22 Ebr 2018 12:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Iau 26 Ebr 2018 18:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people