Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

06/05/2018

John Roberts a'i westeion yn trafod gwyddoniaeth, y Crynwyr, Masnach Deg ac Eglwys y Goedwig. John Roberts and guests discuss ethics and religion.

A yw datblygiadau gwyddonol yn golygu bod yn rhaid i Gristnogion ailddiffinio eu ffydd? Mae John Roberts yn holi Noel Davies, un o gydawduron y gyfrol Cristnogaeth a Gwyddoniaeth.

Wrth i Gyfarfod Blynyddol y Crynwyr drafod cyhoeddi argraffiad newydd o Quaker Faith & Practice - yr argraffiad newydd cyntaf ers 1985 - mae un papur newydd yn awgrymu y gellid cwtogi ar y cyfeiriadau at Dduw yn y llyfr. Catherine James, un o fynychwyr y cyfarfod, sy'n esbonio beth sy'n cael ei drafod a pham.

Rydyn ni'n gyfarwydd 芒 chlywed am siocled, coffi a bananas Masnach Deg, ond beth am aur? Nia Higginbotham sy'n s么n am ddigwyddiad i dynnu sylw at fodrwyau priodas sydd wedi'u gwneud gydag aur Masnach Deg.

Hefyd, Stuart Elliott yn trafod byd natur. Mae'n esbonio sut mae'r Eglwys yng Nghymru yn bendithio ffrwyth y ddaear ar Sul y Gwedd茂au, a pham ei fod e'n trefnu penwythnos Eglwys y Goedwig.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 6 Mai 2018 08:00

Darllediad

  • Sul 6 Mai 2018 08:00

Podlediad