Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Arolygu Ysgolion a Brexit

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod arolygu ysgolion a Brexit. Vaughan Roderick and guests discuss school inspections and Brexit.

Yn dilyn cyhoeddi adolygiad o r么l a chyfrifoldebau Estyn, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod dyfodol arolygu ysgolion yng Nghymru. Ymhlith yr argymhellion mae rhoi rhagor o gyfrifoldeb i ysgolion arfarnu eu perfformiad eu hunain, ac Estyn i gadarnhau ansawdd yr hunanarfarnu hwnnw. Ai athrawon yn marcio eu gwaith eu hunain yw'r ateb?

Sylw hefyd i'r diweddaraf am Brexit, a pha brofiad newydd sbon fyddai'r panelwyr yn ei groesawu?

Dr. Elin Jones, Cleif Harpwood a Gareth Wyn Jones sy'n ymuno 芒 Vaughan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 8 Meh 2018 12:00

Darllediad

  • Gwen 8 Meh 2018 12:00

Podlediad