Cymorth Iechyd Meddwl i Ffermwyr
John Roberts yn trafod cymorth iechyd meddwl i ffermwyr, ac yn sgwrsio gyda phennaeth newydd Cymorth Cristnogol yng Nghymru. John Roberts and guests discuss ethics and religion.
Wrth i'r byd amaethyddol yng Nghymru droi ei olygon tuag at Lanelwedd, mae John Roberts yn sgwrsio gyda Lilwen Joynson am drafferthion iechyd meddwl ffermwyr, a sut i'w cynorthwyo.
Cynan Llwyd sy'n disgrifio arddangosfa newydd gan Cymorth Cristnogol, yn tynnu sylw at y miliynau o bobl sydd wedi'u dadleoli o fewn eu gwledydd eu hunain. Mae John hefyd yn sgwrsio gyda phennaeth newydd Cymorth Cristnogol yng Nghymru, Mari McNeill.
A ydy cynnydd mewn seciwlariaeth yn golygu cymdeithas fwy cyfoethog a goddefgar? Rhys Dafydd Jones sy'n dadansoddi canfyddiadau ymchwil diweddar ym Mhrifysgolion Bryste a Tennessee sy'n awgrymu hynny.
Hefyd, Rhodri Darcy yn esbonio pam fod Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn recordio fersiwn beibl.net o'r Testament Newydd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 22 Gorff 2018 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.