09/09/2018
John Roberts yn trafod herio casineb ar-lein, ymweliad Karen Owen 芒 Jerwsalem, ac ymgynghoriad ar ddyfodol y Beibl yn Gymraeg. John Roberts and guests discuss ethics and religion.
Elin Haf Gruffydd Jones sy'n ymuno 芒 John Roberts i drafod ymgais gan dri chwmni i herio'r rhai sy鈥檔 lledaenu casineb ar-lein. Mae Nationwide, Maltesers a McCain wedi darlledu hysbysebion sy'n cynnwys rhai o'r sylwadau a gafodd eu gwneud amdanynt ar-lein, gan gynnwys rhai hiliol a homoffobig.
Mae gan y bardd Karen Owen ddiddordeb yn y modd y mae'r Cymry wedi gweld eu hunain yn debyg i genedl Israel, a hefyd yn hanes Israel heddiw. Mae'n s么n am ei hymweliad diweddar 芒 Jerwsalem.
Beibl i Gymru: Beth yw'r dyfodol? Dyna deitl ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal i ystyried y ddarpariaeth sydd ar gael, a'r posibiliadau i'r dyfodol. Hywel Meredydd sy'n trafod.
Cylchgrawn deufisol y Methodistiaid yng Nghymru yw'r Gwyliedydd, ac mae bellach yn cael ei gyhoeddi fel CD, yn ogystal ag ar bapur. Mae Robin Jones yn un o'r golygyddion, ac yn esbonio pam.
Sgwrs hefyd gyda Nan Wyn Powell-Davies, am ei thaith gerdded i hel arian i Gymorth Cristnogol.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 9 Medi 2018 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.