Rhyfel yn yr Awyr
Wrth gyflwyno Cymry'r Rhyfel Mawr, mae'r rhaglen hon yn rhoi sylw i'r rhyfel yn yr awyr. A series exploring life in Wales during the Great War.
Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf 芒 dull newydd o ryfela a lladd, drwy fynd 芒'r ymladd i'r awyr.
Roedd hedfan yn newydd, y dechnoleg yn gyntefig, a doedd dim disgwyl i beilotiaid fyw'n hir.
Gwasanaethodd rhyw 22,000 o beilotiaid yn lluoedd Prydain yn ystod y Rhyfel. Cafodd hanner ohonyn nhw eu lladd.
Yn y rhaglen hon, cawn hanes rhai Cymry a wasanaethodd yn y math newydd hwn o frwydro.
Unig blentyn oedd yr Is-gapten Rhys Beynon Davies o Henllan, Llandysul. Ar y cyntaf o Fai 1917, roedd yn hedfan mewn awyren Albatross yn ardal Arras, a chafodd ei ladd pan ffrwydrodd y tanc petrol mewn ymosodiad.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 5 Tach 2018 12:30大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
Dan sylw yn...
Y Rhyfel Mawr—Cymry 1914-1918
Rhaglenni Radio Cymru yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.