Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

18/11/2018

John Roberts a'i westeion yn trafod materion moesol a chrefyddol, gan gynnwys cynorthwyo pobl gyda'u galar. Ehics and religion, including a discussion on bereavement support.

Ble mae'r ffin i wleidyddion rhwng glynu at ddaliadau a gweithredu er lles etholaeth neu wlad? Felix Aubel a Liam Andrews sy'n trafod gyda John Roberts.

Cynorthwyo pobl gyda'u galar sy'n mynd 芒 sylw Euryl Howells a Llinos Nelson. Mae Euryl yn s么n am wasanaeth Eu Golau Disglair, a Llinos yn ymhelaethu ar ei gwaith gydag elusen Cruse.

Wedi i Amnest Rhyngwladol dynnu anrhydedd oddi ar Aung San Suu Kyi, oherwydd ei dull o drin pobl Rohingya ym Myanmar, mae'r bargyfreithiwr Gwion Lewis yn ystyried gwerth anrhydeddau o'r fath. A oes 'na berygl i gyrff rhyngwladol roi eu gobaith mewn un person, a chael eu siomi?

Hefyd, Manon Ceridwen James yn trafod hysbysebion Nadolig. Pa wersi sydd gan hysbysebion y siopau mawr i eglwysi?

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 18 Tach 2018 08:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Bwrw Golwg

Darllediad

  • Sul 18 Tach 2018 08:00

Podlediad