Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Figaniaeth

Golwg ar y cynnydd yn nifer y bobl sy'n dilyn deiet figan, a pham bod ffermwyr yn poeni. A look at why more and more people switch to a vegan diet, and the concerns of farmers.

Golwg ar y cynnydd yn nifer y bobl sy'n dilyn deiet figan, a pham bod ffermwyr yn poeni.

Wrth i elusen Veganuary ddweud bod mwy nag erioed wedi ymrwymo i'w her i fynd yn figan am fis, ac wrth i arbenigwyr o'r diwydiant bwyd awgrymu mai 2019 fydd y flwyddyn pan y bydd bod yn figan yn dod yn gyffredin, mae rhai o ffermwyr Cymru wedi cael llond bol ar beth y maen nhw'n eu hystyried yn ymdrechion celwyddog i bardduo eu diwydiant. Maen nhw'n honni bod ymgyrchwyr figanaidd yn camarwain y cyhoedd i gredu bod anifeilaid yn cael eu camdrin.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys rhybudd gan faethegydd gyda thros ugain mlynedd o brofiad, sy'n dweud nad yw deiet figan bob amser mor iach ag y mae ymgyrchwyr yn ei honni.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 24 Chwef 2019 16:00

Darllediadau

  • Iau 21 Chwef 2019 12:30
  • Sul 24 Chwef 2019 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad