Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Prydain heb lysgennad yn UDA

Trafodaeth ar faterion gwleidyddol, gan gynnwys y ffrae am lysgennad Prydain i UDA. Political discussion, including the row over the UK's ambassador to the US.

Ar 么l i Syr Kim Darroch ymddiswyddo fel llysgennad Prydain i Unol Daleithiau America, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod rhai o'r cwestiynau sy'n deillio o'r ffrae. Sut a pham y daeth beirniadaeth Syr Kim o weinyddiaeth yr Arlywydd Trump i sylw papur newydd, ac a oedd Mr Trump yn iawn i ddweud y byddai UDA yn rhoi'r gorau i ddelio 芒 Syr Kim oherwydd y sylwadau?

Trafodaeth hefyd ar yr honiadau diweddaraf am wrth-semitiaeth o fewn rhengoedd y Blaid Lafur. Dywedodd cyn-swyddogion wrth raglen Panorama bod rhai o gyfoedion agosaf Jeremy Corbyn wedi ymyrryd yn y broses annibynnol a gafodd ei llunio i ddelio 芒 chyhuddiadau o wrth-semitiaeth. Mae Mr Corbyn wedi gwadu unrhyw ymyrraeth.

Bethan Jones Parry, Sioned Williams a Gary Slaymaker sy'n gwmni i Vaughan.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 12 Gorff 2019 12:00

Darllediad

  • Gwen 12 Gorff 2019 12:00

Podlediad