Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Her Saith Eliffant Tesni

Carys Edwards o Wenynfa Pen y Bryn; Carol Jones o gwmni jam y "Welsh Lady"; her anhygoel Tesni Wyn Jones a sgwrs gyda'r artist Luned Rhys Parri. A warm welcome with Shân Cothi.

Carys Edwards o Wenynfa Pen y Bryn a Carol Jones o gwmni jam y "Welsh Lady" yn sôn am eu menter newydd wrth i'r ddau gwmni ymuno.

Tesni Wyn Jones, sy'n 12 oed, ac yn byw ym Mhenygroes ger Caernarfon sydd wedi gosod sialens i'w hunain sef Her Saith Eliffant Tesni. Mae'n bwriadu cerdded i fyny Mynydd Mawr yn Eryri bod dydd am wythnos i godi arian i Ysbyty Alder Hey ac Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Mi fydd Luned Rhys Parri ynghyd ag artistiaid eraill yn arddangos eu gwaith yn Oriel Ffin y Parc ger Llanrwst. Epona yw thema'r arddangosfa – sef yr hen air Frythoneg am geffylau yn crwydro – ac o ble daw'r enw Epynt. Mi fydd Luned yn rhoi rhagflas i ni ac yn sgwrsio am be sy'n ei hysbrydoli i greu'r gwaith.

1 awr, 56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 12 Awst 2020 11:00

Darllediad

  • Mer 12 Awst 2020 11:00