Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

G诺yl y Banc

Barry 'Archie' Jones yn trafod comedi newydd; Tom Jeffery yn swyno gyda'i unawdau piano a Wynne Melville Jones yn s么n am y Llwybr Ll锚n. A warm welcome with Sh芒n Cothi.

Mae cwmni teledu dyfeisgar wedi creu hanes darlledu trwy fod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gwblhau ffilmio cyfres ddrama gomedi yn ystod y cyfnod clo, a hynny trwy greu swigen i'r cast a'r criw. Bu鈥檔 rhaid atal y gwaith cynhyrchu ar y gyfres gomedi newydd, Rybish, ym mis Mawrth ond llwyddodd Cwmni Da i greu cynllun wnaeth alluogi'r rhaglen i barhau i ffilmio. Cynhyrchydd ac awdur y gyfres, Barry "Archie" Jones, sy'n dweud mwy.

Dim ond 7 oed yw Tom Jeffery o Flaenau Ffestiniog ac mae o wedi llwyddo i swyno cynulleidfaoedd ar wefannau cymdeithasol efo'i ganeuon ar y piano. Mae wedi dysgu ei hun sut i chwarae ac mae'n perfformio darn gan un o hoff gyfansoddwyr Sh芒n, sef Ludovico Einaudi. Cawn sgwrs hefyd efo tad Tom, sef Julien Jeffery.

Agorwyd y Llwybr Ll锚n yn Llanfihangel Genau鈥檙 Glyn yng Ngheredigion gan T. James Jones (Jim Parc Nest) yn 2012. Ers hynny, oherwydd tywydd garw, mae鈥檙 llwybr wedi gorfod cau yn achlysurol, ac yn yr wythnosau diwethaf mae wedi ail-agor yn dilyn y difrod diweddaraf. Mae Wynne Melville Jones yn byw yn yr ardal, ac yn ymhelaethu yngl欧n 芒 chefndir ac arwyddoc芒d y llwybr.

1 awr, 56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 31 Awst 2020 11:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Bore Cothi

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Brychan

    Cylch O Gariad

    • Can I Gymru 2011.
    • 2.
  • Catsgam

    Pan Oedd Y Byd Yn Fach

    • Dwi Eisiau Bod.
    • FFLACH.
    • 2.
  • Cowbois Rhos Botwnnog

    Lle'r Awn I Godi Hiraeth?

    • IV.
    • SBRIGYN YMBORTH.
    • 1.
  • Yr Overtones

    Ar Y Blaen

    • Sesiwn Ar Gyfer C2.
  • Carwyn Ellis & Rio 18

    Tywydd Hufen Ia虃

    • Joia!.
    • Banana & Louie Records / Recordiau Agati.
  • Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

    Merch T欧 Cyngor

    • Hen Wlad Fy Nhadau.
    • SAIN.
    • 6.
  • Magi Tudur

    Troi A Dod Yn 脭l

    • PERTHYN.
    • CRAIG.
    • 2.
  • Wigwam

    Mynd A Dod

    • Coelcerth.
    • Recordiau JigCal Records.
  • C么r Canna

    Am Brydferthwch Daear Lawr

    • Canna.
    • SAIN.
    • 1.
  • Heather Jones

    Rwy'n Cofio Pryd

    • Dawnsfeydd Gwerin.
    • SAIN.
    • 3.

Darllediad

  • Llun 31 Awst 2020 11:00