Rhaglen 1
O Borth Wen Fach i Ben Dal Aderyn, o Porth Lydan i Gefn Sidan; o wichiaid i dat诺s, Cerrig Defaid a boliau llaith.
Jon Gower sy'n casglu enwau morwrol Cymru.
O Borth Wen Fach i Ben Dal Aderyn, heibio Porth Lydan a Chefn Sidan; o wichiaid a wystrys i dat诺s, Cerrig Defaid a boliau llaith.
Cyfoeth o enwau a geiriau sy'n codi o'r m么r ac yn atgof sydyn o'n hen berthynas ni 芒'r m么r grymus sydd o'n cwmpas ni.
Mae'r m么r yn ffin i Gymru ar dair ochr. Lle chwarae i nifer ohonom ni erbyn hyn ond ers canrifoedd mae'r m么r wedi caniatau i ni deithio, i fasnachu, i frwydro, ac i ni fwydo ein hunain ac mae olion hynny i'w gweld ar hyd yr arfordir ond hefyd mewn caneuon, mynwentydd, dogfennau hanesyddol, enwau cartrefi, a chof ardaloedd.
Jon Gower sy'n sgwrsio gyda haneswyr, ecolegwyr a physgotwyr er mwyn casglu enwau arfordirol a morwrol Cymru. Wrth sgwrsio gydag Elinor Gwynn, Elin Tomos, Sion Williams, Gareth Bonello, Dilwyn Morgan a Meinir Pierce Jones mae Jon yn clywed yr hanesion hyfryd sydd wrth wraidd yr enwau. Rhai enwau yn fyw ac yn iach, eraill yn prysur ddiflannu ac eraill yn cael eu tynnu i'r lan o ddyfnderoedd hen ddogfennau a mapiau.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 25 Hyd 2020 18:30大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru
- Llun 5 Ebr 2021 12:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2