Newid diwylliant, Cofio colledion Covid, a'r Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru
John Roberts yn trafod galar Covid, hawl i fod yn ddiogel a Chymreictod yr Eglwys. A discussion on grief in Covid times, the right to be safe and the Church in Wales and identity.
John Roberts yn trafod:
Newid diwylliant gwrywaidd yn sgil y sylw i lofruddiaeth Sarah Everard - Mary Stallard (Archddiacon Bangor a fu yn gaplan yn Ysgol St Joseph yn Wrecsam) a Jill Hayley Harries (llywydd Undeb yr Annibynwyr ac Ymddiriedolwr i Cymorth i Fenywod Caerfyrddin) yn sgwrsio.
Cofio colledion Covid - 23 Mawrth wedi ei nodi fel dydd i gofio gan yr Eglwys yng Nghymru a'r elusen Marie Curie- sgwrs efo Lynne Williams a gollodd ei mam fis Tachwedd a sgwrs bellach efo Ainsley Griffiths Eglwys yng Nghymru.
Y Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru - cyfres o ddarlithoedd wedi eu trefnu gan Ainskey i dynnu sylw at gyfraniad yr Eglwys i Gymru - sgwrs efo Ainsley a Dylan Foster Evans sydd yn traddodi'r ddarlith gyntaf am John Davies Mallwyd
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediad
- Sul 21 Maw 2021 12:30大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.