Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ianto a Bethan v Tomos ac Eurfyl

Catrin Beard sy'n chwilio am y t卯m mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Catrin Beard searches for the most knowledgeable team in this no-nonsense quiz.

Catrin Beard sy'n chwilio am y t卯m mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol.

T卯m 1: Ianto a Bethan. Mae Ianto yn gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, canu 芒 ch么r Bechgyn Bro Taf, a chefnogi t卯m rygbi'r Gleision. Ffaith ddiddorol: Mi oedd yn y Brifysgol gyda'r dyn sy'n modelu'r plismon sydd y tu allan i ddrysau Homebargains. Ddim yn ei nabod yn dda. Mae Bethan yn athrawes ddrama yn Ysgol Glantaf, ac mae鈥檔 cefnogi t卯m p锚l-droed Wolverhampton Wanderers (Wolves). Ffaith ddiddorol: Cynrychiolodd D卯m Bowlio Cymru dan 18 ym Mhencampwriaethau Ewrop, ond mae cyfleoedd i chwarae wedi bod yn brin eleni, yn sgil y pandemig. Mae ganddyn nhw gi, Llew, sy鈥檔 mwynhau bwyta esgidiau pawb!

T卯m 2: Tomos ac Eurfyl - Tad a Mab. Mae Eurfyl wedi gorffen gweithio ar 么l bron i 30 mlynedd gyda鈥檙 Urdd, a bellach yn brysurach nag erioed - yn gadeirydd papur Bro y Cardi Bach ac yn ysgrifennydd Capel Calfaria, Login ymhlith dyletswyddau eraill. Ac os nad yw hynny鈥檔 ddigon mae鈥檔 ddilynwr brwd o鈥檙 Scarlets. Yn hynny o beth mae Tomos yn dilyn ei dad, ac yn chwarae rygbi i glwb Crymych. Mae wedi rhannu llwyfan gyda鈥檙 Welsh Whisperer pan yn gwneud stand up, a claim to fame Tomos yw bod Tecwyn Ifan a Dafydd Iwan wedi cysgu yn ei wely e - ond nid ar yr un pryd.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Mai 2021 18:00

Darllediad

  • Iau 20 Mai 2021 18:00