07/03/2022
Cwtsh Creadigol, beirdd a chynefin. Young welsh poets, the meaning of home and a creative catch!
Cwtsh Creadigol yw enw gwefan arbennig sy'n cynnig cysur i'r gweithlu iechyd a hynny drwy'r celfyddydau . Mae Nia Roberts yn cael hanes creu'r wefan gan Aled Jones, yr awdur Manon Steffan Ros, a'r cerddor Iori Haugen.
Mae'r prosiect Adref/Cynefin yn gywaith cenedlaethol sy'n edrych ar wir ystyr "adref" a "chynefin" i fobol ar draws Cymru, gan ddadansoddi'r canlyniadau mewn ffyrdd celfyddydol. Mae Nia'n cael cwmni dwy sy'n arwain y prosiectau, Siwan Llynor a Rebecca Smith Williams.
Yn 2020 cynhaliwyd cystadleuaeth i feirdd ifanc gan y cylchgrawn Poetry Wales, ac o'r diwedd wedi hir ymaros mae blodeugerdd o'r gweithiau llwyddianus newydd ei gyhoeddi gan Wasg Seren. Golygydd y gyfrol, Eurig Salisbury sy'n sgwrsio am yr ymateb calonogol a gafwyd i'r gystadleuaeth.
A gyda thaith y Consortiwm Cymraeg o glasur Willy Russell "Shirley Valentine" newydd gychwyn, Branwen Cennard sy'n adolygu'r ddrama.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediad
- Llun 7 Maw 2022 21:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2