Ffilm a Theledu
Comedi a sgwrsio gydag Esyllt Sears a'i gwesteion yn trafod uchafbwyntiau y 90au ar sgr卯n. Comedy and chat as Esyllt Sears and guests discuss the on-screen highlights of 90s Wales.
Y gomediwraig Esyllt Sears sy'n edrych n么l ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ffilm a theledu y nawdegau yng Nghymru.
Mae'n clywed gan yr actor Richard Elis sut cafodd e r么l ar Eastenders (oedd yn denu wyth miliwn o wylwyr ar y pryd) trwy beidio a thrio yn rhy galed; Mali Ann Rees sy'n datgelu dylanwad ffilm anaddas ar ei gyrfa actio, a Matthew Glyn Jones sy'n hel atgofion am noson lansio S4C digidol yn Llundain, rhannu llun gyda seren Hollywood a chael ei ddyfynnu gan Huw Edwards.
Yn ymuno yn yr hwyl mae'r cyflwynydd Ameer Davies-Rana sy'n trafod y ffilm Jurrassic Park gwreiddiol, ac mae Esyllt yn olrhain dylanwad arholiadau TGAU Cymraeg ar atgofion cenhedlaeth gyfan o ffilmiau Cymraeg y cyfnod - a chyrff rhai actorion hefyd.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 11 Awst 2022 18:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru