Main content

Meleri Davies

Beti George yn sgwrsio gyda Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen. Beti George chats to Meleri Davies, Chief Officer Partneriaeth Ogwen.

"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George.

Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio adref, fo ydi’r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno.

Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain.

Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo’i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau.

Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri’n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri’n gweithio’n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion.

Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Chwef 2023 13:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Gruff Rhys

    Ni Yw Y Byd

    • Yr Atal Genhedlaeth - Gruff Rhys.
    • PLACID CASUAL.
    • 10.
  • Datblygu

    Cân I Gymry

    • Libertino.
    • Ankst.
    • 4.
  • Bob Delyn a'r Ebillion

    Ffair Y Bala

    • Gedon.
    • ANKST.
    • 4.
  • The Kinks

    Waterloo Sunset

    • Something Else By The Kinks (Deluxe Edition).
    • Sanctuary.
    • 13.
  • Lleuwen

    Rhyddid

  • Judit Neddermann

    El fugitiu

    • Tot el que he vist.
    • Judit Neddermann.
    • 3.
  • Twmffat

    Cariad

  • Breichiau Hir

    Y Teimlad Ynysol, Eto

    • Libertino Records.

Darllediadau

  • Sul 13 Tach 2022 13:00
  • Iau 17 Tach 2022 18:00
  • Sul 26 Chwef 2023 13:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad