CFfI Uwchaled yn ennill gwobr Ysbryd y Gymuned
Hanes Clwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, sydd wedi derbyn gwobr am eu gwaith yn y gymuned. YFC Uwchaled members talk about winning a national award for work in their community.
Ceridwen Edwards ac Erin Williams o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, sy’n sôn am lwyddiant diweddar y clwb yn Birmingham, wrth iddyn nhw ennill gwobr genedlaethol am eu gwaith yn y gymuned.
Hefyd, sgwrs gydag Angharad Edwards o Sir Benfro sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu gelato gyda’i phartner Roger ar eu fferm laeth yn ardal Treglarbes yn Sir Benfro.
Anthony Davies o Gwmsychbant yng Ngheredigion sy'n sôn am gael ei anrhydeddu fel un o 65 o Gigyddion Meistr Ynysoedd Prydain mewn seremoni yn Llundain yn ddiweddar.
Y diweddaraf o’r diwydiant llaeth gyda Richard Davies – a’r gyfreithwraig o Gaerdydd, sydd hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Menter a Busnes, Fflur Jones, sy’n adolygu rhai o’r straeon gwledig yn y wasg yr wythnos hon.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Sul 5 Maw 2023 07:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 6 Maw 2023 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2