Dydd Llun
Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the National Eisteddfod.
 hithau yn ddydd Llun cynta’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd mae Iwan Griffiths yn cael cwmni nifer o westeion yn stiwdio ‘Tocyn Wythnos’ o’r maes ym Moduan.
Prif drafodaeth y rhaglen heno ydy cystadleuaeth Y Goron, ac mae’r tri beirniaid yn ymuno gydag Iwan i drin a thrafod ymhellach, sef Jason Walford Davies, Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds.
Sioned Terry a John Ieuan Jones sydd yn cadw golwg ar brif uchafbwyntiau cerddorol y dydd, gydag Einir Wyn Jones yng ngofal y cystadleuthau canu gwerin a cherdd dant. Mae’r cystadleuthau llefaru yn cael sylw Carwyn John gyda’r brif wobr llefaru, sef cystadleuaeth Llwyd o’r Bryn, yn dathlu 60 oed eleni.
Mae enillydd Gwobr Goffa T H Parry Williams, Geraint Jones, yn galw heibio am sgwrs yn ogystal â’r beirdd Gareth Evans-Jones a Llio Maddocks, a hynny ar ddiwrnod cyhoeddi blodeugerdd LHDTC+ flaengar a chyffrous o’r enw ‘Curiad’ – y cyntaf o’i math yn yr iaith Gymraeg.
Y newyddion celfyddydol diweddaraf ar hyd a lled y maes sydd yn cael sylw Ffion Dafis, tra bod y cerddor Rhiannon Lewis yn adolygu cyngerdd gwerin agoriadol yr ŵyl yng nghwmni ‘Pedair’, nifer o artistiaid gwerin amlwg ardal Llŷn ac Eifionydd, yn ogystal â Chôr Gwerin yr Eisteddfod.
Ac i gloi, mae’r bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen yn cadw golwg bob nos ar y newyddion dyddiol o’r maes.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Dyma'r rhifyn cyntaf
Darllediad
- Llun 7 Awst 2023 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2 & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru