Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dydd Mercher

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a’i westeion yn trin a thrafod digwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Y Fedal Ryddiaith ydy prif gystadleuaeth lenyddol y dydd ac mae’r beirniaid Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas yn trin a thrafod y cynnyrch ddaeth i law eleni wedi'r seremoni.

Sioned Terry sy'n dewis uchafbwyntiau cystadlu cerddorol y dydd, tra bod Esyllt Maelor, Iestyn Tyne a Carys Bryn yn trafod dylanwad y môr a’r mynydd ar waith celfyddydol ardal Llŷn ac Eifionydd.

Ffion Dafis sy'n sgwrsio gyda John Ogwen, Maureen Rhys a Mari Prichard yn ystod lansio e-lyfr ‘Un Nos Ola Leuad’ ar y maes; â hithau yn ddiwrnod cyhoeddi pwy yw Dysgwr y Flwyddyn mae Fiona Collins a Stel Farrar, i’ch dwy yn gyn-enillwyr, yn sgwrsio am eu profiadau nhw fel dysgwyr yn yr ŵyl.

Mae Talwrn y Beirdd yng ngofal Twm Morys a Gruffudd Antur am y tro cyntaf ac mae'r ddau yn galw heibio am sgwrs, tra bod Karen Owen yn cadw golwg ar straeon newyddion y dydd o’r maes.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 9 Awst 2023 18:00

Darllediad

  • Mer 9 Awst 2023 18:00