Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

20/08/2023

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen hon mae Ffion yn ymweld â dwy ŵyl – Gŵyl Gerdd Abergwaun a Gŵyl Green Man yn ogystal â thrafod yr her o ail-gyflwyno hanes, a hynny drwy gyfrwng theatrig gydag Eleri Twynog, Janet Aethwy ac actorion 'Mewn Cymeriad' wrth iddynt baratoi tuag at gynhyrchiad awyr agored yn adrodd hanes Owain Glyndŵr, a hynny yn rhai o gestyll mwyaf nodedig Cymru.

Mae Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda chriw a chast cynhyrchiad 'Y Cwmni', Urdd Gobaith Cymru wrth iddynt hwythau baratoi tuag at eu cynhyrchiad o 'Deffro’r Gwanwyn', tra bod Esyllt Sears, Steffan Evans ac Iwan John yn trafod comedi fel celfyddyd. Ac yna yn olaf, mae Carys Tudor yn trafod y prosiect digidol celf mwyaf a gyflawnwyd erioed, sef 'Celf ar y Cyd' - y prosiect wedi'i wneud yma yng Nghymru, a hynny dan arweiniad tîm Amgueddfa Cymru.

CODAU AMSER:

00:04:52 Gillian Green a Gŵyl Gerdd Abergwaun
00:20:12 Deffo'r Gwanwyn, Y Cwmni, Urdd Gobaith Cymru
00:42:25 Celf ar y Cyd
01:08:00 Comedi fel Celfyddyd
01:31:39 Criw Mewn Cymeriad - 'Owain Glyndŵr - Ble Mae O?'
01:44:48 Eleri Twynog a Janet Aethwy

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 20 Awst 2023 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Iwan Llewelyn-Jones

    Mae Hiraeth Yn Y Mor

    • Caneuon Heb Eiriau.
    • Sain.
    • 3.
  • Dafydd Hedd

    Atgyfodi

    • Bryn Rock Records.
  • John Adams, Harmonium & ´óÏó´«Ã½ National Orchestra of Wales

    Harmonium - John Adams

  • Meinir Gwilym

    Dim Byd a Nunlla 2

    • Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (yn 20 oed).
    • Gwynfryn Cymunedol Cyf.
  • Elidyr Glyn, Gwilym Bowen Rhys & Gethin Griffiths

    Penwaig Nefyn (Byw Cyngerdd Gwerin Curiad Eisteddfod Boduan 2023)

  • Rogue Jones

    Afalau

    • Recordiau Blinc Records.
  • Pedair

    Crwtyn y Gwartheg ( Ty Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol 2023)

  • Yann Tiersen

    Ker Yegu

    • Ker Yegu.
    • Mute.
    • 1.
  • Violin Concerto, Grace Williams, ´óÏó´«Ã½ National Orchestra of Wales & Geneva Lewis

    Violin Concerto - Grace Williams

  • Melda Lois

    Hwyliau Llonydd

  • Gruff Rhys

    Ara Deg

    • Rough Trade Records.

Darllediad

  • Sul 20 Awst 2023 14:00