04/09/2023
Trin a thrafod Cymru a'r byd. Owain Llyr sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Y newyddion diweddaraf o Gymru a thu hwnt gydag Owain Llyr, yn cynnwys newyddion sy'n torri am bryderon diogelwch dwy ysgol yng Ngogledd Cymru.
Dr Huw Lewis sy'n trafod tymor newydd San Steffan a'r heriau sy'n wynebu Rishi Sunak fel Prif Weinidog; Nic Parry sy'n trafod y cyfnod trosglwyddo drytaf erioed yn hanes pel-droed yn Lloegr; a Kath Morgan, Gareth Roberts a Dylan Griffiths syn' trafod byd y campau ar y panel chwaraeon.
Hefyd, Dr Iestyn Pierce o Brifysgol Bangor sydd yn trafod datblygiad diweddaraf yr Ysgol Gyfrifiadureg a Pheirianneg, sef datblygu anwydd fyddai'n galluogi gofodwyr i dreulio cyfnodau mwy estynedig ar y lleuad; a'r newyddiadurwraig a'r awdur gemau cyfrifiadurol Alex Humphreys sy'n trafod cam Netflix mewn i fyd y gemau cyfrifiadurol.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 4 Medi 2023 13:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2