Edrych ymlaen at y Ffair Aeaf
Terwyn Davies yn edrych ymlaen at holl gynnwrf y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni. Terwyn Davies looks forward to this year's Winter Fair in Llanelwedd.
Terwyn Davies yn edrych ymlaen at holl gynnwrf y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni.
Sgwrs gyda rhai o aelodau pwyllgor Sir Nawdd y Sioe eleni, sef Morgannwg, a hanes yr holl waith codi arian sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Hefyd, Gwyn Edwards o Fetws Gwerfyl Goch yn rhannu profiadau o ennill rhai o brif bencampwriaethau'r Ffair Aeaf yn y gorffennol.
Y cigydd Arwyn Morgans o Lanfair-ym-Muallt yn s么n am feirniadu mewn cystadleuaeth newydd yn y Ffair Aeaf eleni - cystadleuaeth yr asen o gig eidion.
Rhagolygon y tywydd am y mis i ddod gyda Megan Williams, a chyfle i glywed mwy am yr hyn sy'n digwydd yn y Ffair gyda Phrif Weithredwr y Gymdeithas, Aled Rhys Jones.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 26 Tach 2023 07:00大象传媒 Radio Cymru