28/01/2024
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Ac yn cadw cwmni i Ffion heddiw mae’r gantores Lleuwen Steffan sydd yn sgwrsio am ei phrosiect creadigol diweddaraf, Emynau Coll y Werin â hithau ar fin teithio led-led Cymru yn perfformio yn ystod mis Chwefror ac Ebrill.
Ymateb i enillydd Gwobr Artes Mundi 10, mae Elinor Gwynn yn ogystal â thafoli dwy arddangosfa weledol sydd ymlaen yn Llundain ar hyn o bryd.
Yr actor Carwyn Jones a’r cyfarwyddwr Rhian Blythe sydd yn trafod cynhyrchiad diweddaraf 'Theatr - Mewn Cymeriad', sef Dai - drama un cymeriad yn olrhain hanes David Lloyd George.
Yn ogystal â hyn cawn hanes prosiect creadigol Kathod gan Heledd Watkins a Catrin Morris, ac mae Anni Llŷn yn cael cip-olwg ar ddwy arddangosfa sydd yn cyd-redeg yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli, sef Cwlwm Gwlân gan Cefyn Burgess ac O’r Cnu i’r Wŷdd.
Ac mae Theatr Genedlaethol Cymru yr un mor brysur ag erioed wrth iddynt hwythau baratoi i fynd ar daith gyda eu cynhyrchiad diweddaraf – Ie Ie Ie, addasiad Cymraeg gan Lily Beau o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Wolfgang Amadeus Mozart
Oboe Concerto
Performer: Steve Hudson. Orchestra: ´óÏó´«Ã½ National Orchestra of Wales. -
Dafydd Owain
Gan Gwaith
- I KA CHING.
-
Gruffydd Wyn
NELLE TUE MANI
-
Mr Phormula
Un i'r Gorffennol
-
Horn Concerto, Gavin Higgins, Ben Goldscheider & ´óÏó´«Ã½ National Orchestra of Wales
Horn Concerto - Gavin Higgins - ´óÏó´«Ã½ NOW
-
Kathod
Gwenyn
-
Kathod
Cofleidio'r Golau
-
Al Lewis
Darlun
- Ar Gof A Chadw.
- Rasal.
- 1.
Darllediad
- Sul 28 Ion 2024 14:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2 & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru