Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Clybiau Ffermwyr Tir Dewi

Hanes y clybiau ffermwyr sydd wedi'u sefydlu gan elusen Tir Dewi yng ngogledd Cymru. More about rural charity Tir Dewi's new Farmers' Clubs which have been launched in north Wales.

Terwyn Davies sy'n clywed hanes y clybiau ffermwyr sydd wedi'u sefydlu gan elusen Tir Dewi yng ngogledd Cymru. Ceinwen Parry a Richard Edwards sy'n s么n am y profiad o fod yn gysylltiedig 芒'r clybiau newydd, a'r budd y mae ffermwyr yn ei gael o fod yn rhan ohonyn nhw.

Cyfle i glywed gan enillwyr Gwobr Arallgyfeiriad Gorau Gwobrau Amaeth CFFI Cymru eleni. Mae Gwion Jones a Catrin Owen yn cynnal busnes llewyrchus yng nghanolbarth Cymru sy'n cynnig llefydd moethus i bobl i aros ac i ymlacio.

Yn ddiweddar, mae Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun wedi bod yn brysur yn gweithio ar brosect i greu adnodd sy鈥檔 canolbwyntio ar ffermio a llythrennedd ariannol. Pennaeth yr ysgol, Andrew Evans sy'n egluro mwy am Fferm Seren, a'r buddiannau i'r plant.

Y newyddion diweddaraf o'r sector llaeth gyda Richard Davies, a Linda Jones, Rheolwr Cenedlaethol Cymru elusen cefn gwlad FCN Cymru sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 18 Chwef 2024 07:00

Darllediad

  • Sul 18 Chwef 2024 07:00