Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

40 mlynedd wedyn, cyfres arbennig yn cynnwys tystiolaethau personol rhai a effeithiwyd. The powerful recollections of some whose lives were affected by the miners' strike in 1984.

Roedd Streic y Glowyr yn gyfnod hynod gythryblus yn hanes modern Cymru. Fe wnaeth penderfyniad y Prif Weinidog ar y pryd - Margaret Thatcher - i gau 20 o byllau glo ar draws Prydain, a thorri 20,000 o swyddi esgor ar gyfnod o streicio a barodd am flwyddyn, o fis Mawrth 1984 tan Fawrth 1985. Yn Ne Cymru, gwelwyd y gefnogaeth gryfa' i'r streic. Ar y dechrau roedd 99.6% o lowyr yr ardal yn rhan o'r streic. A hyd yn oed flwyddyn wedyn, roedd 93% o lowyr yr ardal yn dal yn cefnogi gweithredu diwydiannol - y canran ucha' ym Mhrydain.
Ond sut gyfnod oedd y flwyddyn yna? Sut wnaeth y cyfan effeithio ar y glowyr a'u teuluoedd - ar ddwy ochr y ffens, fel petai? Sut brofiad oedd hi i fyw ar drugaredd ac ewyllys da yn wyneb caledi ariannol? A beth am y menywod fu'n asgwrn cefn i'r teuluoedd - i ba raddau fu'r cyfnod yn ddeffroad gwleidyddol fyddai'n newid cwrs eu bywydau?

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 17 Maw 2024 16:00

Darllediad

  • Sul 17 Maw 2024 16:00