Archif Saunders Lewis a chynhyrchiad 'Operation Julie'
Ymweliad ag archif Saunders Lewis ac ystafell ymarfer cynhyrchiad Theatr na n脫g o 'Operation Julie'.. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn ymweld 芒'r Llyfrgell Genedlaethol lle mae'n cael cwmni'r Curadur Llawysgrifau Dr Maredudd ap Huw ac yn cael golwg ar beth o archif Saunders Lewis a hanes rhai o'i ddramau mwyaf nodedig.
Yn ystod y rhaglen hefyd mae ymweliad ag ystafell ymarfer cynhyrchiad 'Operation Julie' gan Theatr na n脫g a Chanolfan Y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae'r cerddor Idris Morris Jones yn galw heibio'r stiwdio i sgwrsio am brosiect celfyddydol 'Y Mwrllwch', tra bod Mali H芒f yn sgwrsio am greu fideo myfyrio yn y Gymraeg ar gyfer Cwtsh Creadigol.
Yn ogystal 芒 hyn mae Ffion yn cael cwmni yr actores a'r gantores Lisa J锚n sydd yn trafod sut mae hi wedi mynd ati i fod yn hwylusydd lles ym myd y celfyddydau a bydd tair awdures newydd sbon yn sgwrsio am eu straeon ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth stori fer gan gwmni cyhoeddi newydd 'Sebra' yn ddiweddar.
Mae Dawn McGuinness yn sgwrsio am arddangosfeydd celfyddydol Parkinson's Cymru sydd yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru yn ystod mis Ebrill.
Ac yn goron ar y cyfan mae digon o gerddoriaeth sydd yn adlewyrchu'r wythnos yn gelfyddydol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Rocking the Baby & The Fureys
Rocking the Baby - The Fureys
-
Cowbois Rhos Botwnnog
Cyrraedd Glan
- SBRIGYN YMBORTH.
-
Hyll
Efrog Newydd, Efrog Newydd
- Recordiau JigCal Records.
-
Gobaith & Awen Ensemble
Gobaith - Awen Ensemble
-
Twm Morys & Gwyneth Glyn
Cymru'n Un
- Tocyn Unffordd i Lawenydd.
- Recordiau Sain.
-
Courtship De Rebns Pave & Y Mwrllwch
Courtship De Rebns Pave - Y Mwrllwch
-
Yiddisher Reels & Y Mwrllwch
Yiddisher Reels - Y Mwrllwch
Darllediad
- Sul 7 Ebr 2024 14:00大象传媒 Radio Cymru