Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Alun Thomas yn cyflwyno

Sgyrsiau'n cynnwys cynnydd troseddau yn ymwneud 芒 chyllyll, sut mae nostalgia yn gallu'n cysuro, a phoblogrwydd y Ciwb Rubik. Discussing Wales and the world.

Wrth i 'r ystadegau diweddaraf ddangos bod 'na gynnydd cyffredinol mewn troseddau yn ymwneud 芒 chyllyll, cyn-ddirprwy brif gwnstabl gogledd Cymru, Gareth Pritchard fydd yn trafod y broblem;

Huw Williams a Mirain Rhys sy'n esbonio sut mae nostalgia yn gallu'n cysuro, ond ar y llaw arall, ymha ffordd mae gwleidyddion, ysgolheigion a gwyddonwyr yn cymryd mantais ac yn ei ddefnyddio i'w cwys eu hunain?

Yr hanesydd celf, Mari Griffith, sy'n rhannu'i phrofiad o ymweld ag arddangosfa arbennig yn y Mus茅e d鈥橭rsay ym Mharis i nodi 150 mlynedd ers i'r Argraffiadwyr ddechrau arddangos eu gwaith;

A'r mathemategydd Gareth Evans sy'n ystyried pam bod y Ciwb Rubik yn dal i fod mor boblogaidd ag erioed?

1 awr

Darllediad diwethaf

Iau 2 Mai 2024 13:00