19/05/2024
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen hon mae Ffion yn cael cwmni y trwmpedwr Tomos Williams i drafod ei gywaith cerddorol rhyngwladol sydd yn cyffwrdd ar hanes a hunaniaeth Cymru a'r perfformiadau sydd ar y gweill ganddo yn ystod yr wythnosau nesaf.
Elinor Gwynn sy'n ymweld ag arddangosfa o waith yr artist o Lanfairfechan, Huw Jones, a hynny yn Oriel Storiel ym Mangor.
Argraffiadau yr actor a'r cynhyrchydd Ffion Glyn o ddrama NT Live - 'Nye'.
Iola Ynyr a Carys Gwilym sy'n taro mewn i'r stiwdio i sgwrsio am sioe un ddynes 'Ffenast Siop' mae'r ddwy'n cyd-weithio arni ar hyn o bryd, sydd yn ymdrin 芒'r menopos. Ac er mwyn trafod pa mor bwysig yw hi i'r celfyddydau drafod pynciau anodd fel y menopos mae'r actores Angharad Llwyd a'r bardd Mari Ellis Dunning yn ymuno yn y drafodaeth.
Heledd Cynwal sy'n cael cwmni Cat Gardiner i sgwrsio am arddangosfa gwaith y ffotograffydd Jon Pountney yn Oriel 10, Caerdydd.
Digon o drafod difyr yn ystod y ddwy awr a digon o gerddoriaeth hefyd sydd yn adlewyrchu bwrlwm y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Angharad Rhiannon
Laru
-
Mari Mathias
Helo
- Ysbryd y T欧.
-
Adwaith
Mwy
- Libertino.
-
Mared
Nosi
- Better Late Than Never.
-
Catrin Finch & Aoife Ni Brihain
Catrin Finch + Aoife Ni Bhriain - Why
-
Pys Melyn
Bolmynydd
- cofnodion skiwhiff.
-
Candelas
Llwytha'r Gwn (feat. Alys Williams)
- BODOLI'N DDISTAW.
- I KA CHING.
- 6.
Darllediad
- Sul 19 Mai 2024 14:00大象传媒 Radio Cymru