26/05/2024
Talulah Thomas sy’n nodi canrif ers coroni Prosser Rhys am ei gerdd ddadleuol 'Atgof’. Talulah Thomas marks a century since Prosser Rhys won the Crown at the National Eisteddfod.
Canrif ers coroni'r Prosser Rhys ifanc am ei gerdd ddadleuol 'Atgof' sy'n cyffwrdd ar themâu cwiar, yr artist Talulah Thomas sy'n mynd ar daith i weld sut mae pobl ifanc Cymru yn arfogi barddoniaeth i ddweud eu dweud am eu hunaniaeth nhw heddiw.
Mae Talulah yn cyfarfod beirdd ifanc o bob cwr o’r gymuned LHDTC+, boed yn unigolion trawsrywiol, hoyw neu anneuaidd, ac yn gweld sut maen nhw'n defnyddio ffurf draddodiadol barddoniaeth i gyfleu negeseuon pwysig a ffres am eu hunaniaeth.
Ar ôl codi'r llen ar waith y beirdd ifanc hyn, mae Talulah yn cael ei hysbrydoli i lunio darn o waith yn ymateb i bryddest fuddugol Prosser Rhys ganrif yn ddiweddarach, gan ddeffro'r Atgof a chreu dathliad o hunaniaeth amrywiol pobl ifanc y Gymru gyfoes.
Last on
Broadcasts
- Sun 26 May 2024 16:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Mon 27 May 2024 17:30´óÏó´«Ã½ Radio Cymru