Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

02/06/2024

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Ffion yn cael cwmni'r artist Catrin Williams i sgwrsio am ei harddangosfa newydd yn Oriel Celf Canol Cymru yng Nghaersws.

Mae Aled Emyr newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf yn dwyn y teitl 'Trigo', ac mae Anni Ll欧n yn sgwrsio gydag ef amdani, yn ogystal 芒 chael cwmni ei fam a'i frawd, Mari Emlyn ac Ifan Emyr, i s么n am eu prosiect creadigol hwythau ar y cyd.

Mae'r dramodydd a'r awdur Daf James yn s么n am ei gyfres hir ddisgwyliedig ar 大象传媒 1, 'Lost Boys and Fairies' yn ogystal 芒'i nofel i blant, 'Jac a'r Angel', enillodd un o wobrau Gwobr Tir na n-Og yn ddiweddar.

Mae'r canwr opera Steffan Lloyd Owen ar fin dechrau gyrfa gyffrous yn Stiwdio Opera Rhyngwladol Zurich ac mae'n galw heibio'r stiwdio am sgwrs cyn gadael.

Gyda Theatr Clwyd ar fin llwyfannu cyfieithiad Cymraeg Gwawr Loader o ddrama arobryn Nick Payne, 'Consellations', sef 'Cytserau' - cawn wybod sut mae'r ymarferion yn mynd yng nghwmni'r cyfarwyddwr Daniel Lloyd a'r actorion Aled Pugh a Gwenllian Higginson.

Digon o straeon o fyd y celfyddydau felly yn ogystal 芒 cherddoraieth amrywiol sydd yn adlewyrchu digwyddiadau'r wythnos.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 2 Meh 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Mared

    pe bawn i'n rhydd

    • Mared.
  • Puerto Candelaria & Ay Cosita Linda, Mama

    Puerto Candelaria - Ay Cosita Linda, Mama

  • Mojo

    Y Cariad Sy'n Dal yn Gryf

  • Band Pres Llareggub

    Tyfu Cyrn

    • Kurn.
    • Recordiau MoPaChi Records.
    • 9.
  • Morgan Elwy

    Dyfalu y Dyfodol

    • Bryn Rock Records.
  • Concerto for Orchestra, B茅la Bart贸k & 大象传媒 National Orchestra of Wales

    Concerto for Orchestra - Bartok - 大象传媒 NOW

  • Dylan Fowler

    Joy

    • Acoustic Music Records.

Darllediad

  • Sul 2 Meh 2024 14:00