Main content

Cymry Gogledd America

Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda rhai o'r Cymry sy'n ymgartrefu yng ngogledd America. Terwyn Davies chats to Welsh farmers who have settled in north America.

Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda rhai o'r Cymry sy'n ymgartrefu yng ngogledd America.

Ellis Morris o Red Dragon Dairy yn Ontario, Canada sy'n s么n am benderfynu gadael y fferm ger Arberth, Sir Benfro, a mentro i redeg busnes ger Toronto.

Kansas yw cartref Idris Hughes neu 'Taff' i'w ffrindiau, yn wreiddiol o ardal Llannor ym Mhen Ll欧n, ac mae'n s么n am sefydlu busnes contractio yn America, gan weithio gyda pheiriannau mawr bob dydd.

Mae Prysor Lewis o Ffos-y-ffin ger Aberaeron bellach yn gweithio fel cowboi yn Texas, ac mewn eitem o'r archif, mae'n egluro sut y daeth i fod yn gowboi.

A chawn hanes Daniel Rowbotham o Langeitho, Ceredigion, sydd bellach yn byw ac yn gweithio yn ardal Rio Grande, Ohio - ardal lle symudodd cannoedd o Gymry i'r ardal o gefn gwlad Ceredigion.

11 awr ar 么l i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Medi 2024 07:00

Darllediadau

  • Sul 23 Meh 2024 07:00
  • Sul 22 Medi 2024 07:00