Alun Thomas yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd yn cynnwys sylw i'r adroddiad cyntaf o'r ymchwiliad Covid sydd newydd gael ei gyhoeddi. Discussing Wales and the world.
Sylw i'r adroddiad cyntaf o'r ymchwiliad Covid sydd newydd gael ei gyhoeddi; a bydd yr arweinydd cerddorfaol Owain Arwel Hughes yn ymateb i'r newyddion y gallai aelodau cerddorfa'r Cwmni Opera Cenedlaethol fynd ar streic;
Trafod cynllun sydd ar y gweill yn Iwerddon i ddenu athrawon newydd i'r proffesiwn. Beth yw'r sefyllfa yma yng Nghymru? Oes pethau tebyg y gallwn eu cyflwyno i ddenu athrawon newydd a'u cadw mewn addysg? Iestyn Owen a Dr Lowri Jones fydd yn trafod;
Pa mor anodd ydi hi i bobl ifanc brynu ty am y tro cynta? Alison Farrar sy'n cynnig atebion;
Ac wrth i Cadw ddathu ei benblwydd yn ddeugain eleni, David Rees sy'n s么n am y cynnydd sydd wedi bod mewn ymweliadau i henebion Cymreig.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Iau 18 Gorff 2024 13:00大象传媒 Radio Cymru