Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

28/07/2024

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Yn y rhaglen yma mae Ffion yn cael cwmni Meleri Davies, Prif Weithredwr Partneriaeth Ynni Cymunedol Ogwen sydd yn sgwrsio am ei cherddi diweddar yng nghylchgrawn amgylcheddol ac ecolegol ar-lein o’r enw ‘Modron’.

Mae Heledd Wyn yn trafod arddangosfa ddifyr sydd ymlaen yn Adran Gelf, Prifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd yn dwyn y teitl ‘Curadu Natur'.

 ninnau ar drothwy yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf mae ymweliad ag ystafell ymarfer Theatr Genedlaethol Cymru wrth iddyn nhw baratoi i lwyfannu drama newydd gan Bethan Marlow.

Mae'r adolygydd Catrin Jones-Hughes yn galw heibio’r stiwdio i sgwrsio am gynhyrchiadau sydd ymlaen yn y West End yn Llundain ar hyn o bryd gyda sêr o Gymry yn perfformio ynddynt.

Ac yna, yn ystod awr olaf y rhaglen mae’r Clwb Darllen yn dychwelyd i drafod tair cyfrol sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar, sef ‘Camu’ gan Iola Ynyr, 'Cerddi’r Arfordir' gyda chyfraniadau gan feirdd amrywiol, a nofel ffantasi hanesyddol wedi'i gosod yn 1752 gan yr awdur Sioned Wyn Roberts o'r enw 'Madws'. Yr adolygwyr ydy Bethan Pari Jones, Heledd Hulson a Kayley Roberts.

Ac wrth gwrs mae digon o gerddoriaeth sydd yn adlewyrchu’r wythnos yn gelfyddydol.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Gorff 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Eden

    Caredig

    • Recordiau Côsh.
  • Gwilym Bowen Rhys

    Sianti Gymraeg

    • Mae'r Tonnau'n Tynnu - Shantis a Chaneuon y Môr.
    • Recordiau Sain.
  • Heather Jones

    O Dyma Fore

    • Goreuon: The Best Of Heather Jones.
    • SAIN.
    • 3.
  • Lo-fi Jones

    Llethrau (Sesiwn Brwydr y Bandiau Gwerin)

  • Cerys Hafana

    Tra Bo Dau (Gorwelion yn Rudolstadt 2024)

  • Achlysurol

    Sinema

    • Jig Cal.
  • Mynediad Am Ddim

    Ynys Llanddwyn

    • Mynediad Am Ddim 1974 - 1992.
    • SAIN.
    • 10.

Darllediad

  • Sul 28 Gorff 2024 14:00