Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

11/08/2024

Cyfres yn edrych ar ddarganfyddiadau diweddaraf y byd gwyddonol. A series looking at the latest developments and findings in the world of science.

Cyfres wyddonol yn edrych ar ddarganfyddiadau newydd, syniadau arloesol ac ymchwil all newid byd.

Yn cyflwyno y mae Elin Rhys ac yn y gyfres hon mae ganddi gymorth cemegydd ifanc, Dr Bedwyr ab Ion, yn adrodd ar bynciau llosg y byd gwyddonol fel AI, y meicrobiom a Vitamin D.
Ers blynyddoedd mai gwyddonwyr Cymru wedi bod ar flaen y gâd gyda’u gwaith yn effeithio ar fywyd bob un ohonom mi, ac yn creu yfory newydd.

Mae'r gyfres hon o dair rhaglen yn adlewyrchu gwaith gwyddonwyr yn rhai o’r meysydd pwysicaf yn ein bywydau. Ein iechyd, ein hamgylchfyd a’n hanes.

Cawn glywed sut mae AI yn gwneud bywyd gwyddonwyr yn haws, pam fod Hydrogen yn ynni glân, effeithiol. Fe glywn hefyd am ffyrdd arloesol o ddelio gyda sbwriel, a sut mae sbwriel yn y gofod yn ben tost.

Mae cyfle i droi at ddarnau lleiaf ein bodolaeth – gweld sut mae addasu DNA yn dod yn haws, a sut mae micro-organebau yn gwneud gwyrthiau. Ac yn ogystal, cyfle wythnosol i edrych nôl ar lwyddiannau rhai o wyddonwyr ein gorffennol – pan oedd eu yfory nhw yn newydd iawn.

Yn y rhaglen gyntaf – sut mae cariad un gwyddonydd at losgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi agor ei llygaid i fwy na dim ond data; sut mae cemegydd yn Llundain yn defnyddio AI, a phwy oedd y gwyddonydd parasitiaid a gafodd ei llun ar dudalen flaen Vogue.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 26 Awst 2024 17:30

Darllediadau

  • Sul 11 Awst 2024 16:00
  • Llun 26 Awst 2024 17:30