Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

25/08/2024

Edrych ar ddarganfyddiadau newydd y byd gwyddonol gyda rhai o wyddonwyr uchelgeisiol ac amlycaf Cymru. Looking at the latest developments and findings in the world of science.

Cyfres wyddonol yn edrych ar ddarganfyddiadau newydd, syniadau arloesol ac ymchwil all newid byd. Yn cyflwyno y mae Elin Rhys - ac yn y gyfres hon bydd ganddi gymorth cemegydd ifanc, Dr Bedwyr ab Ion, yn adrodd ar bynciau llosg y byd gwyddonol, fel AI, y meicrobiom a Vitamin D. Ers blynyddoedd mai gwyddonwyr Cymru wedi bod ar flaen y gâd gyda'u gwaith yn effeithio ar fywyd bob un ohonom ni, ac yn creu yfory newydd. Bydd y gyfres hon o dair rhaglen yn adlewyrchu gwaith gwyddonwyr yn rhai o'r meysydd pwysicaf yn ein bywydau. Ein hiechyd, ein hamgylchfyd a'n hanes. Byddwn yn clywed am sut mae AI yn gwneud bywyd gwyddonwyr yn haws, pam fod Hydrogen yn ynni glân, effeithiol. Byddwn yn clywed am ffyrdd arloesol o ddelio gyda sbwriel, a sut mae sbwriel yn y gofod yn ben tost. Byddwn yn troi at ddarnau lleiaf ein bodolaeth - gweld sut mae addasu DNA yn dod yn haws, a sut mae micro-organebau yn gwneud gwyrthiau. Ac yn ogystal cyfle wythnosol i edrych nôl ar lwyddiannau rhai o wyddonwyr ein gorffennol - pan oedd eu yfory nhw yn newydd iawn. Yn y drydedd raglen o Yfory Newydd – mae sbwriel yn ein hamgylchynu! Nid dim ond ar y ddaear ond yn y gofod hefyd! Bydd Dr Geraint Lawrence o ESA yn disgrifio’r perygl bod ar yr orsaf ofod gan fod cymaint o sbwriel yn ein cylchdroi. Ac ar y ddaear, bydd Dr Nia Owen yn disgrifio sut i gylchdroi gwastraff yn gyfoeth. Gyda marc cwestiwn dros faint o haul sydd yr haf hwn – byddwn yn trafod Vitamin D gyda Dr Iolo ap Gwynn – ac i gloi y gyfres o eitemau ar wyddonwyr bro yr Eisteddfod, mae Dr Neville Evans yn troi ei sylw at athrylith o Aberdâr a aeth o ffiseg i hypnosis!

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 25 Awst 2024 17:30

Darllediad

  • Sul 25 Awst 2024 17:30