22/09/2024
Sylw i hunangofiant, arddangosfa gelf ac amryw o gynhyrchiadau theatr, gyda Ffion Dafis. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth.
Ar y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Branwen Davies sydd yn trafod cynhyrchiad cwmni theatr ‘Llwybr Papur’, sef ‘A Visit’ gan Siân Owen, tra bod Llŷr Titus yn sgwrsio am ei ffilm fer ‘Fisitor’.
Mae’r bardd a’r nofelydd Gwyneth Lewis yn galw heibio'r stiwdio i sôn am ei hunangofiant ‘Nightshade Mother’, ac mae Catrin Jones-Hughes yn adolygu rhan gyntaf perfformiad arloesol Fran Wên, sef ‘Olion’ sydd yn ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod.
Sgwrsio gyda’r pensaer creadigol Malltwen Gwladys mae Izzy Rabey, tra bod yr artist Elfyn Lewis yn rhoi blas i ni o arddangosfa yn Oriel Celf, Caerdydd gan yr artist rhyngwladol Mary Lloyd Jones sydd yn nodi ei phen-blwydd yn 90 oed eleni.
Ac i gyd-fynd gyda’r sgyrsiau amrywiol o fyd y celfyddydau mae digon o gerddoriaeth yn adlewyrchu’r wythnos yn gelfyddydol.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Lowri Evans
Byd ar Dan
- Beth am y Gwir?.
- Shimi Records.
- 5.
-
Carwyn Ellis & Rio 18 & Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y ´óÏó´«Ã½
Lawr Yn Y Ddinas Fawr
-
Buddug
Unfan
- Recordiau Côsh.
-
Dafydd Iwan
Cysura Fi
- Dos I Ganu.
- Sain.
- 8.
-
Gresffordd - I'r Goleuni 'Nawr & Tref ar y Ffin
Gresffordd - I'r Goleuni Nawr - Tref ar y Ffin - New Voices + New Sinfonia
-
Band Pres Llareggub & Tara Bethan
Seithenyn
- Pwy Sy'n Galw?.
- Recordiau MoPaChi Records.
- 11.
Darllediad
- Sul 22 Medi 2024 14:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru