Main content

Esyllt Lewis, Michael Harvey ac adolygiad o 'Fy Enw i yw Rachel Corrie' y Theatr Genedlaethol

Hefyd, gwaith diweddaraf Jac Ifan Moore; hanes Ceri Richards; a sgwrs gyda'r dylunwyr Huw Aaron a Jac Jones. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddyol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni’r bardd Esyllt Lewis â hithau newydd ddychwelyd yn ôl wedi ymweliad â Gŵyl Barddoniaeth Transpoesie ym Mrwsel.

Cawn hanes y cyfarwyddwr Jac Ifan Moore a’i waith ar y cynhyrchiad diweddar ‘Tachwedd’, sydd ymlaen yn Llundain ar hyn o bryd, tra bod Kimberley Abodunrin yn sgwrsio am gynhyrchiad Theatr Iolo sef, ‘The Welsh Dragon’.

Dafydd Jones sydd yn edrych waith yr artist a’r hanesydd celf Ceri Richards.

Mae'r storïwr a’r cyfarwyddwr Michael Harvey yn galw heibio’r stiwdio i sôn am ei gwmni theatr newydd sbon ‘Bando’, a chawn glywed am y paratoadau tuag at eu cynhyrchiad cyntaf, ‘Y Llyn’.

Adolygu cynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Fy Enw i yw Rachel Corrie’ mae Mared Llywelyn, tra bod Elinor Gwynn yn galw heibio Oriel Storiel ym Mangor i sgwrsio gyda dau o ddylunwyr mwyaf blaengar Cymru, Huw Aaron a Jac Jones.

2 o ddyddiau ar ôl i wrando

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 20 Hyd 2024 14:00

Darllediad

  • Sul 20 Hyd 2024 14:00