Llwyddiant mawr i'r ffermwyr ifanc
Hanes llwyddiant rhai o aelodau CFFI Cymru mewn seremoni wobrwyo yn Lloegr yn ddiweddar. The success stories of Wales YFC members in an award ceremony in England recently.
Hanes llwyddiant rhai o aelodau CFFI Cymru mewn seremoni wobrwyo yn Lloegr yn ddiweddar. Eiry Williams o Glwb Llangwyryfon, Ceredigion a Ceridwen Edwards o Glwb Uwchaled, Clwyd sy’n sôn am eu llwyddiant yng ngwobrau’r NFYFC yn Birmingham.
Hefyd, stori Hufenfa Cwm Gwendraeth yn Llanddarog – brand llaeth newydd gan Enzo Sauro a’r teulu, sy’n cludo cynnyrch llaeth yn syth i’w cwsmeriaid.
Elin Hughes o Lanbedr-Pont-Steffan sy'n sôn am fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.
Richard Davies â’r newyddion diweddaraf o’r sector laeth, a Llinos Owen, un o drefnwyr Cneifio Gelert sy'n adolygu’r straeon gwledig yn y wasg.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 10 Tach 2024 07:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru