Nes Daw'r Wawr
Drama'n dilyn tri milwr ifanc ar goll yn 'No Man's Land' yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Three Welsh soldiers in a hopeless situation negotiate an armistice. Cerys Matthews narrates.
Drama gignoeth, gerddorol sy'n dilyn tri milwr ifanc o Gymru dros ugain munud di-dor yn y rheng flaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi ei fframio gan farddoniaeth Hedd Wyn.
Wedi i un milwr gael ei anafu'n angheuol, mae rhai o'i gymrodyr yn gwrthod ei adael ar ei ben ei hun. Yn nhywyllwch digysgod 'No Man's Land' heb unman i droi, does ganddynt ddim ond ei gilydd, straeon am adref a chaneuon cofiadwy i leddfu eu poen. Er iddynt geisio cadw eu lleisiau'n dawel, mae Almaenwr cyfagos yn clywed eu canu angerddol; ac mae'n rhaid i'r garfan fechan lunio cynllun yn gyflym os am gadw'n ddiogel mewn sefyllfa fregus.
Cast:
Gareth Elis
Si么n Emyr
Elis Myers-Sleight
Archie Christoph-Allen
a Cerys Matthews
Awdur a Chynhyrchydd:
Gareth Owen
Cyfarwyddwr Cerdd:
Adam Wachter
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 10 Tach 2024 09:30大象传媒 Radio Cymru
- Dydd Sul Diwethaf 17:30大象传媒 Radio Cymru