Main content

Y ffermwr sy'n helpu Si么n Corn

Hanes Dylan Jones o Nantgaredig sy'n rhoi help llaw i Si么n Corn gyda'i waith bob blwyddyn. Dylan Jones from Nantgaredig chats about helping Father Christmas with his work each year

Hanes Dylan Jones o Nantgaredig sy'n rhoi help llaw i Si么n Corn gyda'i waith bob blwyddyn.

Hefyd, John, Tomos a Margaret Dalton o ardal Llangybi ger Llanbedr-Pont-Steffan sy'n s么n am y traddodiad teuluol o fagu twrciod ar gyfer y Nadolig, a sy'n paratoi ar gyfer blwyddyn brysur eleni eto.

Mae am fod yn Nadolig prysur hefyd i Rhiannon Wyn Jones o Roshirwaun ger Aberdaron ym Mhen Ll欧n, wrth iddi werthu bwyd a phob math o gynnyrch blasus i'r trigolion lleol a hynny o'r Cwt Wyau sydd wedi'i leoli ar waelod l么n y fferm.

Richard Davies sydd 芒'r newyddion diweddaraf o'r diwydiant llaeth, a chyfle ar ddiwedd y rhaglen i glywed Parti Deusain buddugol CFFI Penybont, Sir Gaerfyrddin yn Eisteddfod CFFI Cymru eleni.

22 o ddyddiau ar 么l i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul Diwethaf 07:00

Darllediad

  • Dydd Sul Diwethaf 07:00