29/12/2024
Iwan Steffan yn mynd ar daith o Lerpwl i Riwlas i ymweld 芒鈥檌 deulu i drafod cerddoriaeth a鈥檌 fywyd teuluol. Iwan Steffan talks about his life's journey through music.
Iwan Steffan sy'n mynd ar daith o Lerpwl i Riwlas i ymweld 芒鈥檌 deulu. Taith gerddorol, emosiynol a chorfforol ble mae Iwan yn cyfarfod aelodau o鈥檙 teulu i drafod cerddoriaeth a鈥檜 bywyd teuluol.
Yn wreiddiol o Riwlas, mae Iwan bellach wedi ymgartrefu yn Lerpwl ble mae'n ddylanwadwr TikTok ac yn creu cynnwys ar gyfer platfformau cyfryngau cymdeithasol personol a thudalennau bwytai ar draws y wlad. Gyda 180k o ddilynwyr a dros 5 miliwn o 'likes' ar TikTok, mae cynnwys tudalen Iwan yn aml yn dilyn straeon arswyd ac ysbrydion sydd yn denu miloedd o wylwyr ac yn ennyn diddordeb ar draws y wlad a thu hwnt.
Wrth iddo dyfu fyny yng Ngogledd Cymru, mynegai Iwan y bu wastad yn teimlo'n 'wahanol' a 'ddim yn ffitio mewn 鈥榠 gymdeithas draddodiadol y Cymry'. Cafodd ei fagu mewn cartref creadigol gyda'i dad Steve Eaves, a'i chwiorydd Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Ond yn dilyn colled ei fam yn ifanc iawn, roedd Iwan yn teimlo 'ar goll' yng Ngogledd Cymru ac eisiau cychwyn bywyd newydd yn Lerpwl. Cafodd gyfle eleni i gyflwyno ar y carped coch yn ystod yr Eurovision Song Contest yn Lerpwl.
Yn ddiweddar, mae Iwan wedi croesi'r ffin yn 么l i Gymru i gyflwyno cyfres newydd deledu i blant, ac mae wedi bod yn hapus iawn i dreulio amser unwaith eto yn ardal ei fagwraeth. Gyda'i arddull naturiol dyner a'i gymeriad hoffus a chynnes, mae Iwan yn trafod materion dyrys bywyd mewn modd twymgalon a dyrchafol. Ymysg y caneuon sy鈥檔 cael eu chwarae a'u trafod mae鈥檙 trac, 'Nos Da, Mam' o'r albwm 'Moelyci' gan Steve Eaves. Hyd at heddiw, mae Iwan yn cael trafferth i wrando ar yr albwm ac ar y g芒n arbennig yma, sy'n golygu cymaint iddo. A'r albwm sydd ym marn Iwan, 'y darn gorau o waith Dad erioed... a mynydd Moelyci sydd tu cefn i'r t欧, ble mae llwch Mam wedi gwasgaru'.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Steve Eaves & Elwyn Williams
Iesu Grist Ar Y Tr锚n O Gaer
- Iawn.
- SAIN.
- 1.
-
Steve Eaves
Ff诺l Fel Fi
- Croendenau.
- ANKST.
- 5.
-
Lleuwen
Gwinllan Wen
-
Steve Eaves
Y Canol Llonydd Distaw
- Y Canol Llonydd Distaw.
- ANKST.
- 6.
-
Blodau Gwylltion
Pan O'n I'n Fach
- Llifo fel oed.
- Gwymon.
-
Steve Eaves
Nos Da Mam
- Moelyci Steve Eaves.
- SAIN.
- 12.
-
Lleuwen
Mynyddoedd
- Gwn Gl芒n Beibl Budr.
- Sain.
- 11.
-
Lleuwen Steffan
Rhyfedd y Rhyfeddodau
-
Lleuwen
Rhyddid
Darllediadau
- Sul 29 Rhag 2024 19:00大象传媒 Radio Cymru
- Dydd Calan 2025 18:00大象传媒 Radio Cymru