Main content

Dewi Llwyd yn cyflwyno

Gobeithion Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad; golwg ar adeiladau Brwtalaidd Cymru, a hanner canrif ers sefydlu'r berthynas rhwng Cymru a Siapan.

Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, y panel chwaraeon, Ffion Eluned Owen, Bethan Clement a David James sy'n trafod gobeithion Cymru yn eu g锚m gynta yn erbyn Ffrainc heno;

Gyda'r ffilm "The Brutalist" yn y sinemau, y pensaer Gwyn Lloyd Jones sy'n craffu ar rai o adeiladau yr arddull Frwtalaidd sydd yma yng Nghymru;

Ac wrth i ni ddathlu'r cysylltiad rhwng Cymru a Siapan, sy'n 50 mlynedd eleni, Bet Davies sy'n trafod ymha ffordd mae'r berthynas rhwng y ddwy wlad wedi datblygu dros y blynyddoedd.

7 o ddyddiau ar 么l i wrando

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 31 Ion 2025 13:00