Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar 么l cael ei darlledu

Teleri Wyn Davies.

Beti George yn sgwrsio gyda Teleri Wyn Davies, Hyfforddwraig a Chwaraewr Rygbi. Chat show with Beti George.

" Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".

Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr t卯m rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi鈥檙 gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy鈥檔 cysylltu Hong Kong 芒'r tir mawr.

Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael s锚l bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar 么l cael ei barlysu wrth chwarae ei g锚m olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.

Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal 芒 dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys c芒n Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y g芒n ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn g芒n mor neis a mor agos i nghalon i. " Mi ddaru鈥檙 hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul Nesaf 18:00

Darllediad

  • Dydd Sul Nesaf 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad